Ynys Y Barri 10K
Mae’r haul, y môr a’r tywod yn gefndir i 10K Ynys y Barri – sy’n enwog am ei hawyrgylch hwyliog a’i llwybr amrywiol.
Mae amrywiaeth o weithgareddau i blant yn cael eu cynnal ar hyd y promenâd, gan gynnwys Ras Hwyl i’r Teulu a Ras Plant Bach – gan rhoi cyfle i ddarpar athletwyr a theuluoedd ymuno yn yr hwyl.
Mae’r rasys yn dechrau ac yn gorffen ym Mae Whitmore sydd hefyd yn cynnal Pentref y Digwyddiad lle mae cerddoriaeth fyw, adloniant, stondinau a bwyd stryd blasus. Ymlaciwch ar gadair gynfas ar ôl y ras neu ewch i nofio yn y môr ar draeth baner las y Barri – does dim rhaid i chi ond bydden ni’n eich annog yn gryf i wneud!