Bydd miloedd o bobl yn mynd i gefnogi’r rhedwyr yn Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality, ac mae digon o gyfleoedd iddynt gyfrannu at y bwrlwm ar ddiwrnod y ras.
Gan fod Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality wedi dod yn fwyfwy poblogaidd a bod y maes elit yn gwella, mae’r ddarpariaeth i wylwyr wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf hefyd er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl allu gwylio rhai o’r athletwyr gorau yn y byd yn troedio’r llwybr eiconig a chefnogi teulu a ffrindiau.
Mae’r ardal i wylwyr ar Heol Corbett yn gyfle unigryw i wylwyr brofi awyrgylch dihafal Hanner Caerdydd a’r dyrfa fywiog wrth i’r rhedwyr nesáu at y llinell derfyn ar Rodfa Brenin Edward VII.
Gylchfan Enfys Cymdeithas Adeliadu Principality: Bydd y llwfan hwn yn fôr o liw a chynnwrf wrth i chi basio heibio cyn mynd o amgylch Llyn y Rhath ac yna ar eich ffordd yn ôl, rhwng milltiroedd 10 a 12. Cymdeithas Adeiladu’r Principality a Pride Cymru sy’n cefnogi’r ardal gefnogi yma sy’n dathlu amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae terasau sefyll haenog yn rhoi golygfa wych i wylwyr o’u teulu a’u ffrindiau yn croesi’r llinell derfyn tra bydd cerddoriaeth fyw, system PA, gwobrau a sgriniau mawr (yn dangos darllediad y BBC) ar Rodfa Brenin Edward VII yn eich helpu i fwynhau profiad y ras i’r eithaf.
Ewch yno’n gynnar i fachu’r lle gorau i wylio. Rydyn ni’n argymell mynd draw i Heol Corbett a Rhodfa Brenin Edward VII o 10:15am.
MYNEDIAD I BOBL ANABL
Mae maes parcio talu ymlaen llaw ar gael yn stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd filltir o’r llinell gychwyn. Does dim meysydd parcio swyddogol yn agosach at linell gychwyn/derfyn y digwyddiad felly rydyn ni’n eich annog i ddefnyddio’r meysydd parcio cyhoeddus sydd ar gael yn y ddinas lle bo’n bosibl.
Mae rhywfaint o lefydd parcio i bobl anabl ar gael ym maes parcio Adeilad Morgannwg o 10:45am o ganlyniad i gyfyngiadau ar y ffyrdd. Os bydd angen mynediad arnoch chi, cysylltwch â ni ar [email protected] ac fe wnawn ni ein gorau glas i’ch helpu.
Mae ardaloedd gwylio i bobl anabl ar gael ar y cychwyn (ardal gadw) ac ar y diwedd (platfform gwylio). Nodir y lleoliadau hyn ar y mapiau isod. Er gwybodaeth, gall mynediad fod yn gyfyngedig o ganlyniad i’r nifer fawr o wylwyr felly dylech gyrraedd yn gynnar lle bo’n bosibl. Mae’r ardaloedd gwylio ar gael ar sail y cyntaf i’r felin a bydd swyddogion diogelwch yn bresennol drwy gydol y dydd.
Adloniant ar y Cwrs
| lle | Milltir | Bwy |
| Sloper Road | 1 | P1NK Coffee DJ |
| Pumping Station | 2.7 | Vinyl Spin |
| Oyster Catcher Penarth | 3.6 | VOG Brass Band |
| Cardiff Bay Barrage | 4.6 | Batala Bristol |
| Norwegian Church (Cardiff Bay) | 6 | Ukulele Band |
| Roald Dahl Plass (Cardiff Bay) | 6.2 | Rock N Soul |
| Pen Y Lan Community Centre (Roath) | 9.4 | Tune Truck |
| Principality Rainbow Roundabout | 10 +12 | Pride Cymru |
| Lake Road West / Wild Gardens Road | 11.2 | Rock Choir |
| Cathays Cemetery | 12.3 | Just Cheese |
| Cathays Social Club | 12.8 | Cathays Brass Band |