Coopah App

Coopah x R4W
Newydd ddechrau rhedeg, neu ddim yn siŵr ble i ddechrau wrth weithio tuag at bellter? Mae ein cynlluniau hyfforddi’n berffaith i ddechreuwyr sy’n chwilio am gyngor ar sut i strwythuro eu hymdrechion wrth weithio tuag at bellter penodol.
Rhedeg Cymdeithasol a Chefnogaeth

Rhedeg Cymru
Mae Rhedeg Cymru yn rhaglen rhedeg cymdeithasol newydd wedi’i datblygu i ‘ysbrydoli, annog a chefnogi’ pob oedolyn yng Nghymru i redeg. Mae rhedeg yn rhad ac am ddim a gall pawb ei wneud! Mae pob ymdrech yn cyfrif ac nid yw’r un rhediad yn rhy fyr – mae Rhedeg Cymru yma i ddathlu unigolion a grwpiau sy’n rhedeg, yn loncian ac yn rhedeg tuag at ffordd fwy gweithgar o fyw.
Felly waeth beth fo’ch oed, lefel ffitrwydd, dyhead, cefndir neu leoliad, gall pawb fod yn rhan o Rhedeg Cymru! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau rhedeg, mae Rhedeg Cymru yma i’ch cefnogi ar bob cam a’ch croesawu i fod yn rhan o’r gymuned rhedeg yng Nghymru.
Ryseitiau Iach

Mae maethu yn agwedd hanfodol o’ch hyfforddiant. Sicrhewch y gorau o’ch paratoadau gyda chynlluniau maethu a ryseitiau i helpu cyrraedd eich nod.
Cyngor Meddygol

Ffit i Redeg?
Mae rhedeg am ddim, gallwch ei wneud unrhyw le ac mae’n llosgi mwy o galorïau nag unrhyw ymarfer corff prif ffrwd arall.
Gall rhedeg yn rheolaidd leihau eich risg o salwch hirdymor fel clefyd y galon, diabetes math 2 a strôc. Gall wella eich hwyliau hefyd a’ch helpu i reoli eich pwysau.
Darllenwch y cyngor hwn ar osgoi salwch neu anaf a gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gwthio eich hun y tu hwnt i’ch gallu. Os oes gennych chi unrhyw bryderon, ewch at eich meddyg cyn penderfynu rhedeg.