Gwyl Marathon Casnewydd Cyrmu
Marathon, Hanner Marathon, 10K a Ras Iau
Dydd Sul 13 Ebrill 2025
Mae Marathon Casnewydd Cymru ABP yn ffefryn cadarn ar galendr rhedeg Cymru, gydag un o’r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn y DU.
Mae’r llwybr yn dilyn tirnodau eiconig fel Pont Gludo’r ddinas ac mae yno olygfeydd godidog o Wastadeddau Gwent – gyda bywyd gwyllt y môr a phentrefi canoloesol hyfryd.
Mae dyddiau gorau Casnewydd yn sicr o’i blaen. Mae’n ddinas llawn hanes ag awyrgylch aml-ddiwylliannol – gyda bragdai artisan a threftadaeth gerddorol gyfoethog. Mae’r rasys yn dechrau ac yn gorffen ar lan yr afon yng nghanol y ddinas, sydd wedi cael ei hadfywio.
Mae’r ras 10K hwyliog a chyflym sy’n cyd-fynd â’r marathon yn rhoi cyfle i redwyr o bob gallu gymryd rhan heb ymrwymo i’r pellter heriol o 26.2 milltir.
Ynys Y Barri 10K
10K a Ras Iau
Dydd Sul 15 Mehefin 2025
Mae’r haul, y môr a’r tywod yn gefndir i 10K Ynys y Barri – sy’n enwog am ei hawyrgylch hwyliog a’i llwybr amrywiol.
Mae amrywiaeth o weithgareddau i blant yn cael eu cynnal ar hyd y promenâd, gan gynnwys Ras Hwyl i’r Teulu a Ras Plant Bach – gan rhoi cyfle i ddarpar athletwyr a theuluoedd ymuno yn yr hwyl.
Mae’r rasys yn dechrau ac yn gorffen ym Mae Whitmore sydd hefyd yn cynnal Pentref y Digwyddiad lle mae cerddoriaeth fyw, adloniant, stondinau a bwyd stryd blasus. Ymlaciwch ar gadair gynfas ar ôl y ras neu ewch i nofio yn y môr ar draeth baner las y Barri – does dim rhaid i chi ond bydden ni’n eich annog yn gryf i wneud!
10K Porthcawl Brecon Carreg
10K a Ras Iau
Dydd Sul 6 Gorffennaf 2025
Mae 10K Porthcawl Brecon Carreg Ogi yn ras gyffrous mewn tref sy’n enwog am syrffio, chwaraeon a llwybrau cerdded arfordirol, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.
Yn fan poblogaidd yn ystod yr haf i bobl leol ac i ymwelwyr, mae Porthcawl yn enwog am ddisgleirio yng ngolau’r haul. Mae’r ras 10K yn cael ei rhedeg ar ffyrdd sydd wedi’u cau, gan basio nifer o dirnodau a mannau godidog ger y môr gan gynnwys Rest Bay, Traeth Treco, Coney Bay, canol lliwgar y dref, y Pafiliwn hanesyddol, a Goleudy eiconig Porthcawl.
Bydd amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon eraill i deuluoedd a phlant ar y diwrnod hefyd – gan gynnwys Ras Hwyl i’r Teulu a fydd yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesaf o athletwyr gymryd eu camau cyntaf yn y byd rhedeg.
Rhediad Cwningen Cymru
12K, 40K & Ras Iau
Dydd Sadwrn19 Gorffennaf 2025
Awydd rhedeg llwybrau? Mae’r Ras Wyllt (Rabbit Run) boblogaidd yn ras newydd i galendr R4W. Peidiwch â cholli’r cyfle i redeg ar hyd llwybr 12K ar stad breifat Merthyr Mawr.
CDF 10K
10K a Ras Iau
Dydd Sul 6 Medi 2026
Mae 10K Caerdydd wedi cael ei hychwanegu at bortffolio Rhedeg Dros Gymru (R4W) o ddigwyddiadau nodedig y byd athletau gyda chyfranogiadau enfawr.
Mae adfywiad y digwyddiad eiconig a hanesyddol hwn yn rhoi cyfle i filoedd o redwyr i lenwi strydoedd calon prifddinas Cymru, mewn râs sy’n prysur amlygu ei hun fel un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf y Deyrnas Unedig.
Her Rheoli Dell Technologies
Ddiwrnod Ras Hwyl
5-7 Mehefin 2025
Mae Her Rheoli Dell Technologies yn ddigwyddiad cystadleuol 4-dimensiwn unigryw sy’n anelu at wella perfformiad y tîm rheoli, a sicrhau canlyniadau elusennol cadarnhaol.
- Ras Antur 2 ddiwrnod (canŵio, beicio mynydd, rhedeg, heicio, darllen map, saethyddiaeth a phosau.)
- Datblygu sgiliau rheoli, cyfle i gydweithio ar her reoli gyfoes a defnyddio’r dysgu er budd eich sefydliad. Bydd hwn yn ymarfer astudiaeth achos wedi’i ategu gan sesiwn â siaradwr gwadd. Bydd yr astudiaethau achos yn cael eu hasesu gan academydd blaenllaw o ysgol fusnes.
- Cyfleoedd a fforymau ar gyfer rhwydweithio ar lefel uwch.
- Codi arian i elusen.
Cynhelir y digwyddiad hwn o Racquety Farm, Y Gelli Gandryll, Y Mynydd Du, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
10K Bae Caerdydd Brecon Carreg
10K a Ras Iau
Dydd Sul 19 Mai 2024
Mae Ras Bae Caerdydd Brecon Carreg yn ddigwyddiad cyflym, gwastad a hwyliog i bobl o bob oed a gallu, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.
Mae’r ras boblogaidd hon yn y gwanwyn, sy’n denu rhai o brif athletwyr y DU, yn cael ei rhedeg yng nghanol Bae hanesyddol Caerdydd.
Mae’r cwrs 10K yn pasio holl dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, gan ddechrau a gorffen ym Mhlas Roald Dahl ar ôl pasio Canolfan Mileniwm Cymru, Mermaid Quay, Adeilad y Pierhead, y Senedd, Porth Teigr a Morglawdd Bae Caerdydd.
Camu I’r Copa
Digwyddiadau yn arddangos y gorau o amgylchedd naturiol Cymru, bellach yn rhan o deulu Run 4 Wales
Cylchlythyr Rhedeg dros Gymru
I gael clywed cyhoeddiadau am ddigwyddiadau a’r newyddion diweddaraf: