{"id":20941,"date":"2023-05-25T08:17:47","date_gmt":"2023-05-25T08:17:47","guid":{"rendered":"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/?p=20941"},"modified":"2023-05-25T08:17:47","modified_gmt":"2023-05-25T08:17:47","slug":"cymdeithas-adeiladur-principality-yn-noddi-hanner-marathon-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/cymdeithas-adeiladur-principality-yn-noddi-hanner-marathon-caerdydd\/","title":{"rendered":"CYMDEITHAS ADEILADU\u2019R PRINCIPALITY YN NODDI HANNER MARATHON CAERDYDD"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Cyhoeddwyd heddiw mai Cymdeithas Adeiladu\u2019r Principality yw partner newydd Hanner Marathon Caerdydd, sy\u2019n dychwelyd i strydoedd y brifddinas ddydd Sul 1 Hydref er mwyn dathlu ugain mlynedd ers y ras gyntaf. <\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn hyn, Hanner Marathon Caerdydd yw\u2019r digwyddiad torfol mwyaf yng Nghymru, a dyma un o\u2019r rasys hanner marathon mwyaf o ran niferoedd a\u2019r mwyaf adnabyddus yn Ewrop. Mae\u2019r ras yn denu 27,500 a mwy o bobl i gofrestru i gymryd rhan.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <strong>Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales<\/strong>, yn credu y bydd y bartneriaeth hon yn gwreiddio Hanner Marathon Caerdydd ymhellach yn niwylliant y brifddinas:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cWrth i ni baratoi i ddathlu\u2019r garreg filltir anhygoel hon, edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda\u2019r Principality. Rydyn ni\u2019n rhannu gwerthoedd tebyg iawn o ran cymuned, elusen ac amrywiaeth ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu pobl i gyrraedd eu nodau, boed hynny drwy ymarfer i gwblhau\u2019r hanner marathon neu drwy gael lle i\u2019w alw\u2019n gartref. Gyda\u2019n gilydd, rydyn ni\u2019n edrych ymlaen yn fawr at weld beth allwn ni ei gyflawni er mwyn gwneud eleni &#8211; yr ugeinfed ras &#8211; yn fwy arbennig byth.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae gweithio ar y cyd \u00e2 brand mor amlwg o Gymru yma yng Nghaerdydd &#8211; sydd \u00e2 changhennau ar hyd a lled y wlad &#8211; yn rhoi ymdeimlad o berthyn yn y gymuned, ac rydyn ni\u2019n edrych ymlaen at weld y brifddinas yn troi\u2019n goch ym mis Hydref.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Principality yw&#8217;r gymdeithas adeiladu fwyaf yng Nghymru a&#8217;r chweched fwyaf yn y DU. Ar benwythnos y ras, bydd brand y gymdeithas ar gael i\u2019w weld yn amlwg yn y brifddinas, o linell ddechrau\u2019r ras yng Nghastell Caerdydd, ar hyd y llwybr 13.1 milltir sy\u2019n ymestyn i Farina Penarth, at y llinell derfyn yn y Ganolfan Ddinesig.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ychwanegodd Julie Ann Haines, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu\u2019r Principality: <\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydw i mor falch ein bod ni\u2019n gweithio mewn partneriaeth \u00e2 Hanner Marathon Caerdydd oherwydd rydyn ni\u2019n credu mewn helpu pobl i wireddu eu breuddwydion a\u2019u gobeithion. Mae\u2019r digwyddiad hwn yn cael cymaint o gefnogaeth, ac mae\u2019n dod \u00e2 phobl at ei gilydd o gefndiroedd amrywiol ar hyd a lled y wlad. Mae\u2019r ras yn creu awyrgylch carnifal o amgylch y ddinas, ac mae miloedd o bobl yn rhedeg er mwyn codi arian i gefnogi elusennau a chymunedau. Dyma\u2019r gwerthoedd sydd gennym ninnau hefyd, fel cwmni blaenllaw yng Nghymru. Bydd yr hanner marathon yn achlysur gwych, a byddwn yn cefnogi\u2019r rhedwyr drwy gydol eu taith.\u201d Yn wir, ers i\u2019r digwyddiad hwn gyrraedd y brifddinas yn 2003,<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;mae\u2019r rhedwyr wedi hel \u00a320 miliwn a mwy at achosion da dros y blynyddoedd. Ar ben hynny, mae Run 4 Wales \u2013 sy\u2019n trefnu Hanner Marathon Caerdydd \u2013 yn ailfuddsoddi unrhyw elw mewn prosiectau cymunedol a chwaraeon ar lawr gwlad drwy ei sefydliad elusennol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cymdeithas Adeiladu\u2019r Principality eisoes yn hyrwyddo chwaraeon Cymru ar \u00f4l noddi rygbi ar lawr gwlad dros y ddau ddegawd diwethaf. Y tu allan i\u2019r byd chwaraeon, cafodd Cymdeithas Adeiladu\u2019r Principality ei henwi\u2019n ddiweddar fel prif noddwr Pride Cymru, sef yr elusen a\u2019r \u0175yl LHDTC+ fwyaf yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhedwyr sy\u2019n awyddus i gymryd rhan yn y ras eleni yn cael eu hannog i sicrhau eu lle heddiw. Mae disgwyl i\u2019r cofrestriadau cyffredinol gael eu gwerthu o fewn y 24 awr nesaf. Gallwch chi gofrestru yn <a href=\"https:\/\/cardiffhalfmarathon.co.uk\/cy\/\">cardiffhalfmarathon.co.uk<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cyhoeddwyd heddiw mai Cymdeithas Adeiladu\u2019r Principality yw partner newydd Hanner Marathon Caerdydd, sy\u2019n dychwelyd i strydoedd y brifddinas ddydd Sul 1 Hydref er mwyn dathlu ugain mlynedd ers y ras gyntaf. Erbyn hyn, Hanner Marathon Caerdydd yw\u2019r digwyddiad torfol mwyaf yng Nghymru, a dyma un o\u2019r rasys hanner marathon mwyaf o ran niferoedd a\u2019r mwyaf<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":20938,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[17],"tags":[],"class_list":["post-20941","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20941","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20941"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20941\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20942,"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20941\/revisions\/20942"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20938"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20941"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20941"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/chm.celfweb.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20941"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}